Daeareg Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae sylfeini daearegol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog o arwyddocâd byd-eang. Ym mis Hydref 2005, dynodwyd hanner gorllewinol y Parc Cenedlaethol yn rhan o rwydwaith arwyddocaol Ewropeaidd a Byd-eang Geoparc fel Geoparc y Fforest Fawr. Hyd heddiw Bannau Brycheiniog yw’r unig barc cenedlaethol ym Mhrydain i gwmpasu geoparc.

Click to view the full size map in a pop up window
Cliciwch unrhyw le ar y map i weld fersiwn mwy

Bryniau tywodfaen

Mae dwy ran o dair o ardal y Parc yn greigiau Hen Dywodfaen Coch. Maent yn ffurfio pedwar casgliad penodol o fryniau a rennir gan ddyffrynnoedd afonydd mawr, megis yr Honddu, Grwyne Fawr a Fechan, Wysg, Taf Fawr a Thaf Fechan, Hepste, Mellte, Nedd Fechan, Tawe, Twrch a Sawdde.

Copa uchaf y Mynyddoedd Du yn nwyrain y Parc, yw Waun Fach sy’n 810m o uchder. I'r de o Aberhonddu, yng nghanol y Bannau, mae Pen-y-Fan sydd 866m uwchlaw lefel y môr - dyma bwynt uchaf de Prydain.


Ymhellach i'r gorllewin mae masiff tywodfaen Fforest Fawr, sy'n gyfres o fryniau sydd i gyd â’r enw 'fan’ - Fan Fawr yw’r pwynt uchaf, sy’n 734m. Mae dŵr yn rhuthro tua'r de o'r ardal hon wedi ffurfio dyffrynnoedd afonydd serth gyda rhaeadrau rhyfeddol.

Y darn mwyaf gorllewinol o dywodfaen yw’r Mynydd Du, sy'n cyrraedd uchafbwynt gyda chopa Fan Brycheiniog sy’n 802m o uchder a llynnoedd rhewlifol hudolus Llyn y Fan Fach a Llyn y Fan Fawr.

Ymylon, palmentydd ac ogofâu calchfaen

Ar gwr deheuol y Parc Cenedlaethol mae’r ddaeareg yn newid, a daw brigiadau calchfaen a grut melinfaen i’r amlwg. Mae'r dirwedd calchfaen yn cynnwys llawer o ymylon a sgrïau ac mewn rhai ardaloedd mae'r tir yn frith o bantiau a elwir yn llyncdyllau.

Pan gerfiwyd y dirwedd gan iâ dros 10,000 o flynyddoedd yn ôl, crëwyd ac amlygwyd ardaloedd llyfn o galchfaen. Erbyn hyn mae'r calchfaen wedi’i doddi’n rhannol gan y glaw gan greu patrwm o flociau a holltau. Gelwir yr holltau yma’n greiciau ac maent yn gartref i gymunedau o blanhigion sy'n ffurfio cynefin a elwir yn galchbalmant. Dyma un o gynefinoedd prinnaf Cymru.

Dim ond rhimyn tenau o galchfaen sy'n rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin ar draws de'r Parc. Mewn rhai rhannau mae’r calchfaen ar wyneb y tir, yn enwedig ar dir uwch. Mae hyn yn ffurfio rhwydwaith tua 20 hectar yn unig o balmentydd bychain, gwasgaredig. Mae llawer o'r palmentydd hyn wedi’u difrodi wrth i flociau cerrig neu glintiau gael eu symud oddi yno. Fodd bynnag, mae eraill heb eu haflonyddu neu o leiaf fe’u difrodwyd amser maith yn ôl.

Mae'r holltau tenau’n rhoi cysgod a lle diogel i blanhigion megis rhedynen y calchfaen a’r goesgoch. Mae'r blodau ar y palmentydd a glaswelltiroedd cyfagos yn denu nifer o bryfed hedegog ac mae’r creigiau’n dal yr haul, gan ddenu madfallod cyffredin a nadroedd defaid.

Mewn ardaloedd lle nad yw’r palmentydd wedi’u pori, mae coetir wedi tyfu drostynt. Mae'r palmentydd coediog hefyd yn bwysig ar gyfer mamaliaid bychain, ac mae’r cysgod a’r graig noeth yn annog tyfiant o gen a mwsogl.

O dan yr wyneb mae ogofâu a llwybrau bendigedig, yn aml wedi’u haddurno â stalagmidau a stalactidau.

Mae'r grut melinfaen a chreigiau’r Mesurau Glo yn creu tirwedd garw, drwm sy’n aml yn llawn dŵr. Y creigiau hyn sy’n bennaf gyfrifol am ffurfiant rhaeadrau enwog y Parc Cenedlaethol.