Lle i gerdded
Does fawr ddim yn cymharu â mwynhau cerdded dros ein cefnennau agored, neu fynd am dro ar hyd ein llwybrau heddychlon ac archwilio ein coedwigoedd prydferth, heulog. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn llawn o leoedd bendigedig, sy’n siŵr o roi ymdeimlad o gyffro a rhyddid i chi.
Y Bannau Canolog yw’r gadwyn o fynyddoedd uchaf yn Ne Prydain. Mae llawer o gerddwyr yn dringo’r ddau gopa Pen-y-Fan a Chorn Du am her ac antur. Fodd bynnag, mae 520 milltir sgwâr ein Parc hefyd yn cynnwys tair ardal ucheldir arall, sef cadwyn y Mynydd Du, mynyddoedd y Fforest Fawr a’r Mynyddoedd Du, ac mae gan bob un ei gymeriad unigryw a photensial cerdded godidog.
O fewn ein parc, mae ‘na lwybrau cerdded ar gyfer pob gallu, gydag amrywiaeth o dirluniau i ddewis ohonynt.
Mae cyfuchlinau crwn ucheldir yr hen dywodfaen coch yn creu’r tirlun ysbrydoledig agored mae Bannau Brycheiniog yn adnabyddus amdano. Tua’r de mae’r Parc yn cynnwys brigiadau arbennig o galchfaen carbonifferaidd, wedi’u ffurfio gan ddŵr i greu ceunentydd dwfn, coediog, ogofâu, tyllau sinc a’r rhaeadrau enwog. Yn y gwastadeddau ceir afonydd a thirlun gwyrdd, tonnog, llawn gwrychoedd a defaid.
UCHAFBWYNTIAU
-
Llwybrau byr
Does ddim rhaid i chi fynd yn rhy bell am brofiad cerdded arbennig ym Mharc...
-
Llwybrau Canolig
Os ydych chi’n edrych am brofiad sydd ychydig yn fwy sylweddol, bydd ein ...
-
Llwybrau Hirach
Os am gyfle i gadw’n heini, dyma’r man cychwyn perffaith. Mae’n gasgl...
-
Llwybrau Sain a Phodlediadau
Casglwch ychydig o wybodaeth ychwanegol wrth wrando ar un o’n llwybrau sa...
-
EWCH I GERDDED DRWY DDEFNYDDIO’R BWS
Anghofiwch am y car a dewch i grwydro Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ...
-
Llwybrau daearegol
Wedi’u ffurfio gan effeithiau graddol rhew a dŵr, mae tirlun Parc Cenedl...