TAITH GYLCH CRAIG-Y-NOS

Blas ar Dawe. 


Gyda llynnoedd, pyllau a golygfeydd eang o’r dyffryn, mae’r daith gerdded hon yn un fer ond yn un braf iawn hefyd. Byddwch yn croesi afonydd dros gerrig camu ac yn mynd heibio i Ganolfan Ogofau Genedlaethol Cymru yn Dan-yr-Ogof – lleoliad unigryw ac arbennig iawn.
 

Manylion pwysig    

Hyd: 2½ milltir (4km)
Amser: Tua 1¼ awr (ychwanegwch 2 arall os am ymweld â Chanolfan Ogofau Genedlaethol Cymru)
Dechrau a gorffen: Maes parcio Parc Gwledig Craig-y-Nos, Abercraf
Cyfeirnod Map OS: SO 840156
Map OS: OL12 Explorer (cyfres 1:25 000)
Cyfleusterau: Lluniaeth, canolfan ymwelwyr a thoiledau ym Mharc Gwledig Craig-y-Nos
 

Ar hyd y daith               

Parc Gwledig Craig-y-Nos
40 erw (16ha) gwyrdd braf o lannau afonydd, llynnoedd, coetir a dolydd. Arferai’r parc fod yn diroedd addurnedig a ‘gerddi pleser’ Castell Craig-y-Nos gerllaw. Mae’r parc yn hafan i gerddwyr a phobl sy’n hoffi gwylio bywyd gwyllt ac yn llecyn ardderchog am bicnic. Roedd y castell, adeilad mawreddog o’r 19eg ganrif mewn arddull Fictoraidd nodweddiadol, yn gartref i’r seren opera ryngwladol,  Madame Adelina Patti, a fu’n byw yma am 40 mlynedd tan ei marwolaeth yn 1919. Mae bellach yn westy ac yn lleoliad poblogaidd i briodasau.    
 
Canolfan Ogofau Genedlaethol Cymru, Dan-yr-Ogof
Mae’r rhyfeddod tanddaearol yma’n rhan o un o’r systemau mwyaf o ogofau yn Ewrop, yn ymestyn am o leiaf 11 milltir (17km) o dan Fannau Brycheiniog. Mae holl nodweddion clasurol dŵr wrth iddo symud ar hyd creigiau calchfaen i’w gweld yma, o siambrau tanddaearol helaeth i stalagmidau a stalactidau cain. Mae tri phrofiad gwahanol ar gael yn yr ogofau – y prif gasgliad o ogofau arddangos, Ogof y Gadeirlan sydd wedi’i henwi oherwydd ei nodwedd ganolog epig, sef ‘Cromen Sant Paul’ sy’n 13m o uchder, a’r Ogof Asgwrn archeolegol ysbrydoledig. Mae Dan-yr-Ogof yn un o brif atyniadau Cymru i deuluoedd, gydag adloniant uwch ben y ddaear hefyd yn y pentref o’r Oes Efydd, canolfan y ceffylau gwedd a’r parc deinosoriaid.
 
Eglwys Santes Callwen          
Er mai adeilad digon syml yw’r eglwys ei hun, mae’r fynwent yn gartref i ambell gofgolofn ddiddorol. Mae un yn anrhydeddu’r bobl leol a fentrodd eu bywydau yn chwilio am griw awyren a gafodd ddamwain gerllaw yn ystod gaeaf 1939. Yma hefyd fe welwch chi fedd Morgan Morgan, ffermwr lleol a diwydiannwr a werthodd y tir ar gyfer Castell Craig-y-Nos i Adelina Patti. Dau o’i wyrion oedd y rhai cyntaf i archwilio ogofau Dan-yr-Ogof mewn cwrwgl yng ngolau cannwyll yn 1912.