Anturiaethau ar y dŵr
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnig dewis eang o chwaraeon padlo, o dawelwch camlesi a chronfeydd dŵr i gaiaco eithafol dros raeadrau syfrdanol. Byddwch yn barod i gynllunio eich antur eich hun!
Dewch i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a gallwch gael hwyl yn padlo caiac, canŵ, bwrdd padlo, rafft neu hyd yn oed gwneud a phadlo eich cwrwgl eich hun. Gyda dyfroedd wedi’u graddio o Radd 1 (hawdd) hyd at Radd 6 (anodd tu hwnt), yn sicr mae gennym rywbeth at ddant pawb.
Rhagor o wybodaeth

Mae gan Canŵ Cymru (www.canoewales.com) fanylion am bwyntiau mynediad i’ch helpu i benderfynu ble i fynd.
Mae gan Sefydliad Gwy a Wysg (www.wyeuskfoundation.org) wybodaeth am gael mynediad i Afon Gwy ac Afon Wysg, gan gynnwys gwe-gamerâu yn dangos lefelau dŵr presennol.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd (www.canalrivertrust.org.uk) wybodaeth am Gamlas Mynwy ac Aberhonddu.
Mae gan wefan Asiantaeth yr Amgylchedd (www.environment-agency.gov.uk) wybodaeth am lefelau dŵr presennol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Clybiau canŵio
A wnaethoch chi fwynhau eich profiad o badlo? A hoffech ei wneud yn fwy rheolaidd? Mae ymuno â chlwb yn gallu bod yn ffordd dda o ddysgu mwy a chwrdd â phobl tebyg i chi.
Mae clybiau lleol yn cynnwys Clwb Canŵio Aberhonddu (www.breconcanoeclub.org.uk) a Chlwb Canŵio Padlwyr y Clas-ar-wy (chwiliwch ar Facebook am Badlwyr y Clas-ar-wy).
Am glybiau eraill yn yr ardal, ewch i wefan Canŵ Cymru (www.canoewales.com).
Byddwch yn barod, byddwch yn gyfrifol a chadwch yn ddiogel
I gael cyngor pwysig ar arfer dda a diogelwch gan gynnwys y weithdrefn Gwirio, Glanhau, Draenio, Sychu, ewch i’r adran Byddwch yn barod a chadwch yn ddiogel.
busnesau lleol6 of 24
-
Horse Riding at Llangorse Multi Activity Centre
Pony trekking, riding & hackingAll that’s best in the countryside...
-
Interactivities Outdoor Adventure
Established in 1995 and going strong. As a small company with over 30 year...
-
Hawk Adventures
Award Winning Providers of Outdoor Activities, Hawk Adventures have been pr...
-
Llangorse Boat Hire
We hire rowing and fishing boats on Llangorse Lake, we also hire kayaks, st...
-
Beacon Park Day Boats
Day, half-day and hourly boat hire on the canal at Brecon Looking for a da...
-
Black Mountain Activities
Black Mountain Activities has been providing adventure activities for over ...